Tokyo yn Japan
Mae o leiaf 19 o bobl wedi’u lladd a tua 20 wedi cael eu hanafu yn dilyn ymosodiad gan ddyn gyda chyllell mewn canolfan i bobl gydag anableddau ger Tokyo.

Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi ymateb i adroddiadau tua 2.30yb amser lleol ddydd Mawrth gan weithiwr yno yn dweud bod rhywbeth ofnadwy yn digwydd yng nghanolfan Tsukui Yamayuri-en yn ninas Sagamihara, i’r gorllewin o’r brifddinas.

Fe aeth dyn at orsaf yr heddlu yn Sagamihara tua dwy awr yn ddiweddarach. Mae wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio a thresmasu.

Mae swyddogion lleol wedi adnabod y dyn fel cyn-weithiwr yn y ganolfan Satoshi Uematsu. Yn ôl y darlledwr NHK yn Japan, mae’n 26 oed, ac yn ôl adroddiadau eraill, roedd yn anhapus am ei fod wedi cael ei ddiswyddo.

Mae’n debyg bod Satoshi Uematsu wedi gweithio yn y ganolfan tan fis Chwefror.

Roedd wedi cael mynediad i’r adeilad drwy dorri ffenestr ar lawr cyntaf adeilad ar y safle.

Dyma’r digwyddiad gwaethaf o ladd torfol yn Japan ers cenedlaethau. Mae gan y wlad reolau llym iawn yn ymwneud a gynnau.