Mae elw cwmni olew BP wedi gostwng 44% i £549 miliwn yn yr ail chwarter.
Daw’r gostyngiad wrth i’r sector geisio mynd i’r afael a phrisiau olew isel.
Dywedodd pennaeth BP Bob Dudley eu bod yn cyflwyno “gwelliannau sylweddol i’r busnes” a’u bod yn “trawsnewid y busnes i gystadlu, beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol.”
Mae BP hefyd wedi gorfod talu £2.1 biliwn yn gysylltiedig â chostau yn ymwneud a damwain olew Deepwater Horizon.
Mae cost y ddamwain yng Ngwlff Mecsico yn 2010 bellach yn £46.9 biliwn.