Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Môn wedi penderfynu creu safle dros dro ar gyfer sipsiwn a theithwyr yr ardal ar ddarn o dir rhwng Llanfairpwll a Chroesffordd Star, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol.
Cafodd y darn hwn rhwng yr A55 a’r A5 ei ffafrio dros safle sy’n eiddo i’r Cyngor Sir yn y Gaerwen am fod angen mwy o archwiliadau archeolegol ar y tir hwnnw.
Bydd cael caniatâd am y cais cynllunio yn amodol ar gostau ac mae disgwyl i asesiadau pellach gael eu gwneud ar y safle gafodd ei ddewis.
Yn ôl cynghorydd cymuned Llanfairpwll, Meirion Jones, dydy’r Cyngor heb ddefnyddio’r canllawiau cywir na chynnal asesiadau wrth ddewis safle.
Gwrthwynebiad ddim yn gyfiawnhad
Roedd y ddau le yn destun ymgynghoriad cyhoeddus dros y mis diwethaf, ac er i bobol leol leisio gwrthwynebiad “arwyddocaol”, doedd y Cyngor “ddim yn gallu” defnyddio hyn fel yr unig gyfiawnhad dros beidio â dewis safle, meddai Prif Weithredwr y sir, Dr Gwynne Jones.
“Rydym wedi dod ar draws gwrthwynebiad lleol arwyddocaol yn ystod yr ymgynghoriad, ond ni ellir defnyddio hyn fel yr unig gyfiawnhad dros beidio â dewis safle penodol,” meddai.
“Wrth benderfynu ar eu hargymhellion, mae ein swyddogion wedi ceisio cydbwyso anghenion trigolion lleol a chyfrifoldebau’r Cyngor Sir o dan y Ddeddf Tai 2014.”
Cam nesaf y Cyngor yw apwyntio ymgynghorydd er mwyn paratoi dyluniad o’r safle a chyflwyno’r cais cynllunio.
Safle Caergybi
Cytunodd y Pwyllgor Gwaith hefyd y bydd y broses o geisio darganfod safle dros dro i sipsiwn yng Nghaergybi yn parhau, ar ôl dod i’r casgliad, na fyddai’r ddau le a gafodd eu cynnig yn addas.
Mae Cyngor Môn am geisio datblygu gwell dealltwriaeth am ddefnydd y sipsiwn o Borthladd Caergybi a nifer y gwersylloedd sydd heb eu caniatáu.
Y nod yn ôl y cyngor yw helpu’r broses o ddarganfod safle dros dro “priodol” i’r teithwyr sy’n defnyddio’r porthladd.
Ar hyn o’r bryd does dim safleoedd swyddogol ar gyfer sipsiwn a theithwyr ar Ynys Môn, ac yn ôl y Cyngor, mae hyn yn arwain at wersylloedd sydd heb eu hawdurdodi ac yn “creu tensiwn mewn cymunedau lleol” ac “argraff negyddol o’r gymuned sipsiwn.”
Mae’r gymuned yn cael ei chydnabod yn lleiafrif ethnig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac yn unol â Deddf Tai (Cymru) 214, mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar y Cyngor i gynnig man dros dro iddi.
Dywedodd y Cyngor y bydd hefyd yn ymchwilio i’r achos o swm sylweddol o sbwriel a gafodd ei adael ar ôl ar Stad Ddiwydiannol Mona ar ôl i griw o Sipsiwn Romani adael y safle.