Llys y Goron Abertawe
Mae dyn wedi cyfaddef lladd ei bartner ar ôl i’r ddau fod yn treulio’r diwrnod yn yfed.
Cafwyd hyd i gorff Andrea Lewis, 51, mam i ddau o blant, mewn tŷ ym mhentref Tonna, ger Castell-nedd ar 30 Ionawr.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Andrea Lewis o Resolfen wedi torri ei phenglog a’i hasennau, a bod ganddi gleisiau dros ei chorff.
Mae Rhys Trevor Anthony Hobbs, 44, o Heol Fairyland, Tonna wedi pledio’n euog i ddynladdiad.
Dywedodd yr erlynydd Roger Thomas QC, wrth y llys bod Hobbs ac Andrea Lewis wedi bod mewn perthynas dreisgar am bedair blynedd.
Y noson gynt, roedd Hobbs, Andrea Lewis a’i ffrind Keith Thomas wedi bod yn yfed mewn tafarn yng Nghastell-nedd cyn mynd yn ôl i’r tŷ yn Heol Fairyland, Tonna a oedd yn berchen i Keith Thomas ac yn cael ei rhentu gan Hobbs.
Clywodd y llys bod ymosodiad treisgar wedi bod ar Andrea Lewis yn ddiweddarach y noson honno a’i bod wedi cael ei llusgo y tu allan a’i gadael i farw.
Y bore wedyn, roedd Hobbs wedi deffro a darganfod ei bartner y tu allan i’r ty. Fe lusgodd ei chorff i’r gegin a ffonio’r gwasanaethau brys.
Mae Hobbs yn honni nad yw’n cofio beth ddigwyddodd am ei fod wedi meddwi ond mae’n derbyn mai ef oedd yn gyfrifol.
Roedd perchennog y ty, Keith Thomas, 46, hefyd wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ddynladdiad ond ni chafodd unrhyw dystiolaeth ei chyflwyno yn ei erbyn ac fe’i cafwyd yn ddieuog.
Fe fydd Hobbs yn cael ei ddedfrydu ar 11 Awst.