Y bws ar ol iddo wyro oddi ar y draffordd yn Ffrainc Llun: PA
Mae gyrrwr bws, oedd yn cludo plant ysgol a fu mewn gwrthdrawiad yn Ffrainc, wedi dweud wrth ymchwilwyr ei fod wedi colli rheolaeth o’r cerbyd wrth chwilio am ei sbectol haul.
Mae dau fyfyriwr o Ysgol Bournside yn Cheltenham, Swydd Gaerloyw yn parhau yn yr ysbyty yn dilyn y ddamwain ddydd Sadwrn ger y ffin a’r Swistir.
Roedd y bws yn un o fysiau Express Motors, cwmni sydd â’i bencadlys ym Mhen-y-groes ger Caernarfon.
Roedd y disgyblion yn teithio i Dora Baltea yn yr Eidal am wythnos o wersylla pan wyrodd y bws oddi ar draffordd yr A39 yn Lons-le-Saunier yn ardal Jura.
Yn ôl adroddiadau, fe ddywedodd y gyrrwr 51 oed wrth ymchwilwyr ei fod wedi colli rheolaeth o’r cerbyd wrth edrych am ei sbectol haul ond mae’r awdurdodau yn credu ei fod wedi syrthio i gysgu wrth y llyw.
Dywedodd yr erlynydd lleol Jean-Luc Lennon nad oedd yn credu bod esboniad y gyrrwr yn argyhoeddiadol gan nad oedd yn cyd-fynd ag amgylchiadau’r gwrthdrawiad.
Yn ôl y sianel deledu France 3, mae disgwyl iddo gael ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r gwrthdrawiad.
Cafodd dau ddisgybl eu cludo mewn hofrennydd o safle’r ddamwain gydag anafiadau difrifol am tua 11yb ddydd Sadwrn – roedd un ohonyn nhw mewn cyflwr sy’n bygwth bywyd.
Cafodd 10 disgybl arall ac aelod o staff yr ysgol fan anafiadau ac fe gawson nhw driniaeth yn yr ysbyty cyn cael eu rhyddhau.
Mae 40 o ddisgyblion bellach wedi dychwelyd adref ar Eurostar heddiw.
Mae ymgyrch i godi arian i gefnogi teulu un o’r disgyblion gafodd ei hanafu yn y gwrthdrawiad, Sophie Herbert, bellach wedi casglu bron i £5,000 tuag at gostau ei rhieni i ymweld â hi yn Ffrainc.