Yr Arlywydd Erdogan (Llun: Randam CCA2.0)
Mae gweinidog yn y Swyddfa Dramor wedi dweud na fydd y DU yn cadw’n dawel petai Twrci yn ailgyflwyno’r gosb eithaf yn dilyn yr ymdrech aflwyddiannus i ddisodli’r llywodraeth nos Wener.
Neithiwr, fe wnaeth yr Arlywydd Erdogan ymddangos ar y teledu gan ddatgelu manylion am ei brofiad ef o’r chwyldro ac fe wnaeth hefyd grybwyll y posibilrwydd o ailgyflwyno’r gosb eithaf yn y wlad.
Mae hefyd wedi gorchymyn y dylai 6,000 o swyddogion milwrol gael eu harestio, tra bod 8,000 o swyddogion yr heddlu wedi cael eu gwahardd o’u gwaith.
Mae pryderon y bydd yr Arlywydd Erdogan yn defnyddio’r digwyddiad fel rheswm i gael gwared â’i wrthwynebwyr ond dywedodd Syr Alan Duncan yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw y byddai’n ei gwneud hi’n glir i swyddogion yn Nhwrci fod yn rhaid iddyn nhw barchu cyfraith y wlad a hawliau dynol.
Mae hefyd wedi beirniadu unrhyw gynlluniau i ailgyflwyno’r gosb eithaf yn Nhwrci gan ailadrodd sylwadau a wnaed gan lywodraeth yr Almaen na fyddai Twrci yn gallu ymuno â’r UE pe byddai’n gwneud hynny.
Yn ogystal, meddai’r Cenhedloedd Unedig y byddai penderfyniad o’r fath yn “gam mawr i’r cyfeiriad anghywir” ac yn torri cyfrifoldebau Twrci dan gyfraith ryngwladol.
Yn ôl ffigurau swyddogol o swyddfa Prif Weinidog Twrci, cafodd 232 o bobl eu lladd a 1,541 eu hanafu yn y digwyddiad nos Wener.