Y Trysorlys Llun: PA
Mae’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) wedi israddio ei rhagolygon ar gyfer twf yn y DU yn dilyn y bleidlais Brexit.

Mae disgwyl i’r economi’n fyd eang hefyd gael ei effeithio gan ganlyniad y refferendwm.

Mae’r IMF wedi israddio ei rhagolygon ar gyfer y DU yn 2016  0.2% i 1.7% ac yna wedi ei gostwng yn sylweddol o 0.9% i 1.3% yn 2017 wrth i oblygiadau Brexit effeithio’r economi.

Ond mae’r sefydliad wedi rhybuddio y gallai’r gostyngiad fod yn fwy sylweddol os oes anawsterau yn y trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â threfniadau Brexit ac os nad oes cytundeb masnach. O ganlyniad fe allai’r DU wynebu dirwasgiad arall meddai’r IMF.

Yn ei asesiad diweddaraf o economi’r byd, roedd twf economaidd  yn y DU yn rhan gyntaf y flwyddyn yn well na’r disgwyl ym mis Ebrill, ond mae’r “ansicrwydd yn sgil y refferendwm” yn debygol o effeithio hynny.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: “Mae’r penderfyniad i adael yr UE yn nodi cyfnod newydd i economi Prydain ond y neges ry’n ni am ei ledaenu i’r byd yw: mae ein gwlad yn parhau ar agor i fusnes.”