Mae Heddlu’r Gogledd yn parhau i holi dau ddyn ar ôl i gorff dynes ifanc gael ei ddarganfod mewn tŷ ym Mhenygroes, Caernarfon.

Mae un dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ac mae dyn arall yn cael ei holi ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Cafwyd hyd i gorff y fam ifanc yn Heol Llwyndu, Penygroes, am tua 10:45 bore dydd Llun, 18 Gorffennaf ac mae’r heddlu’n trin ei marwolaeth fel un amheus.

Mae’r ddynes wedi’’i hadnabod yn lleol fel Emma Louise Williams a oedd yn ei hugeiniau, ond mae disgwyl cadarnhad swyddogol gan Heddlu Gogledd Cymru prynhawn ‘ma.

‘Cydymdeimlo’

Mae Aelod Seneddol yr ardal, Hywel Williams, wedi trydar i ddweud ei fod yn cydymdeimlo gyda’i theulu a’i ffrindiau a’i fod yn meddwl am y gymuned ym Mhenygroes.

“Rwy’n cydymdeimlo â’i theulu â’i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae fy meddyliau gyda chymuned Penygroes,” meddai’r AS dros Arfon.

Mae archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal heddiw.

Mae ditectifs yn holi llygad-dystion ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth cyn gynted â phosib.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus ar y safle gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod U105426.