Yr Arlywydd Recep Tayyip Erdogan Llun: PA
Mae awyrennau rhyfel yn parhau i hedfan uwchben Twrci yn dilyn ymdrech aflwyddiannus i ddisodli’r llywodraeth nos Wener, gyda’r awdurdodau yn ofni nad yw’r bygythiad ar ben.
Dywedodd asiantaeth newyddion y wladwriaeth, Anadolu fod yr Arlywydd Recep Tayyip Erdogan wedi gorchymyn awyrennau rhyfel dros nos i “reoli’r awyr a sicrhau diogelwch”.
Roedd y milwyr gwrthryfelgar oedd yn gyfrifol am geisio disodli’r llywodraeth wedi gorchymyn awyrennau rhyfel i danio ar adeiladau’r llywodraeth, tra bod y tanciau wedi’u hanfon i’r prif ddinasoedd, ond fe lwyddodd lluoedd oedd yn deyrngar i’r llywodraeth i rwystro’r gwrthryfel.
Cafodd dros 232 o bobl eu lladd gyda 1,491 wedi eu hanafu yn y digwyddiad.
Gyda’r sefyllfa yn parhau’n ansefydlog, fe arhosodd yr Arlywydd Erdogan yn Istanbul er gwaethaf adroddiadau ei fod am ddychwelyd i’r brifddinas Ankara. Roedd adroddiadau yn honni fod dros 2,000 o luoedd arbennig yn Istanbul yn gwarchod mannau allweddol.
Carcharu gwrthwynebwyr
Mae’r llywodraeth wedi cymryd camau i atgyfnerthu ei grym gan garcharu 7,543 o bobl sy’n cynnwys 6,030 o aelodau’r fyddin. Yn ol asiantaeth newyddion Anadolu mae 27 o’r rheiny’n gadfridogion.
Mae’r Llywodraeth yn honni fod y cynllwynwyr yn deyrngar i Fethulla Gulen sy’n byw yn yr Unol Daleithiau, ac mae’n cael ei gyhuddo o geisio disodli’r llywodraeth.
Mae adroddiadau eraill yn awgrymu fod Erdogan ei hun wedi achosi’r gwrthryfel er mwyn cryfhau ei rym yn y wlad.