Boris Johnson (Llun parth cyhoeddus)
Mae Boris Johnson wedi mynnu bydd Prydain yn parhau i chwarae rhan flaenllaw yn Ewrop  yn sgil Brexit.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor newydd wedi cyrraedd Brwsel ar gyfer ei gyfarfod cyntaf gyda Chyngor Materion Tramor yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ôl cyrraedd fe alwodd Boris Johnson ar lywodraeth Twrci i “bwyllo” yn dilyn yr ymdrech filwrol i ddisodli’r llywodraeth ddydd Gwener.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor ei fod am roi neges glir i’r Cyngor nad oedd Brexit yn golygu bod Prydain yn gadael Ewrop.

“Nid ydym am roi’r gorau i’n rôl allweddol a chyd-weithredu yn Ewrop,” meddai.

Dywedodd bod y digwyddiadau “erchyll” yn Nice a Thwrci yn “dangos y pwysigrwydd o weithio gyda’n gilydd.”

Serch hynny, mae disgwyl iddo hefyd wynebu cwestiynau gan wledydd eraill yr UE ynglŷn â safiad y DU wedi canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin a goblygiadau hynny.