Blwch post Undeb Amaethwyr Cymru yn y Sioe Llun: Undeb Amaethwyr Cymru
Brexit fydd yn hawlio’r sylw ar faes y Sioe Frenhinol heddiw, wrth i’r digwyddiad yn Llanelwedd agor yn swyddogol.
Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ac Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates yn siarad ar y maes yn Llanelwedd i glywed gan y ffermwyr.
Lesley Griffiths sydd wedi cyflwyno prif araith y dydd ym mrecwast Hybu Cig Cymru ar ei stondin, wrth i gadeirydd y bwrdd ardoll alw am sicrhau lle i Gymru ym Marchnad Sengl Ewrop.
Gydag allforion cig coch yn werth tua £200m y flwyddyn i economi Cymru, galwodd Dai Davies am “ymateb unedig” ac ar y diwydiant amaeth yng Nghymru i “dorchi llewys” yn lle “llaesu dwylo mewn anobaith” i sicrhau’r gorau i’r sector.
Peidio brysio Brexit
Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae’n rhaid i strategaeth gadael yr UE gael ei “chynllunio’n ofalus” ac “ni ddylai ar unrhyw gyfrif gael ei ruthro.”
Mae’r undeb wedi lansio ei blwch post amaethyddol heddiw yn y sioe, gan annog ymwelwyr drwy gydol yr wythnos i bostio eu pryderon, syniadau a sylwadau am y ffordd ymlaen i fyd amaeth yn dilyn y bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
“Y dyfodol sy’n bwysig. Rhaid i ni roi 100% a chael y canlyniad gorau i Gymru i gyd. Mae pob argyfwng yn gyfle i ddod o hyd i ateb cadarnhaol a rhaid i ni ddod o hyd i’r atebion cadarnhaol hynny,” meddai Glyn Roberts, llywydd yr undeb.
Ar ôl casglu sylwadau pobol ar ei stondin, bydd yr undeb yn crynhoi’r ymatebion yn ei seminar agored, ‘Datblygu’r ateb cywir dros amaeth yng Nghymru’ ar faes y sioe ddydd Iau am 11yb.
Brexit: pryderon dros bwyslais amaeth
Neges debyg i un Undeb Amaethwyr Cymru oedd gan Hybu Cig Cymru heddiw, sy’n dweud bod pryderon ynghylch lle amaeth yn nhrafodaethau gadael yr Undeb Ewropeaidd.
“Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd yn rhaid creu trefniadau newydd, gan gynnwys sicrhau mynediad i’r Farchnad Sengl Ewropeaidd,” meddai Dai Davies.
“Mae pryderon am faint o bwyslais fydd ar amaeth yn y trafodaethau hyn – yn nhermau masnach ac o ran cymorth ariannol – o gymharu â sectorau pwerus fel gwasanaethau ariannol.
“Bydd rhaid i amaeth yng Nghymru addasu, fel y mae hi wedi addasu o’r blaen. Nid trwy laesu dwylo mewn anobaith, ond trwy dorchi llewys.”
Pwysleisiodd yr angen am godi ymwybyddiaeth gadarnhaol o Gymru mewn gwledydd tramor yn dilyn Brexit.
“O gael y gefnogaeth gywir, gall ffermwyr gyflawni’r newidiadau sydd eu hangen i liniaru effaith newid hinsawdd, amddiffyn y tirlun sydd mor bwysig i dwristiaeth, a chynyddu ffyniant busnesau.
“O sicrhau cytundebau masnach cywir, gall Gig Oen a Chig Eidion Cymru dyfu yn nhermau eu gwerth o ran allforio, a gallant fod yn frandiau eiconig sy’n cynrychioli’n gwlad ar draws y byd.”