Mae'n ymddangos bod Erdogan wedi goroesi ymgais i'w ddisodli (Llun: PA)
Mae’r ymgais gan garfan fach o fyddin Twrci i gipio grym oddi ar lywodraeth y wlad wedi methu, yn ôl yr Arlywydd Recep Tayyip Erdogan.

Cafodd o leiaf 161 o bobol eu lladd dros nos, a chafodd mwy na 1,400 o bobol eu hanafu.

Mae mwy na 2,800 o filwyr wedi cael eu harestio.

Dywedodd Erdogan y byddai’r sawl oedd yn gyfrifol yn “talu’r pris am eu brad”.

Dywedodd prif weinidog Twrci, Binali Yildirim fod yr ymladd yn “staen tywyll ar gyfer democratiaeth Twrci”.

Eithafwyr Islamaidd sy’n cael y bai am yr helynt, a dywedodd Yildirim y bydden nhw’n “derbyn pob cosb maen nhw’n eu haeddu”.

Mae’r ymladd yn parhau yn y brifddinas Ankara ac yn Istanbul.

Cafodd tri bom eu hanelu at adeilad llywodraeth y wlad.

Dywedodd Recep Tayyip Erdogan wrth y gynulleidfa ym maes awyr Istanbul Ataturk fore Sadwrn: “Maen nhw wedi anelu dryllau’r bobol at y bobol.

“Yr arlywydd, a gafodd rym gan 52% o’r bobol, sydd mewn grym. Y llywodraeth hon a gafodd rym sydd mewn grym.

“Fyddan nhw ddim yn llwyddo cyn belled ag y byddwn ni’n sefyll yn eu herbyn drwy gymryd risg ynghylch popeth.”

Dywedodd yr heddlu fod 16 o wrthryfelwyr wedi cael eu lladd wrth i’r ymladd ddechrau dirwyn i ben.