Mae dau fws wedi cael eu dinistrio yn dilyn tân mewn garej ym Mhwllheli.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle ar Ffordd Caernarfon am 2.30yb.

Cafodd bws deulawr ei ddinistrio’n llwyr, ac roedd difrod sylweddol i fws arall.

Ond ni chafodd unrhyw un ei anafu yn y digwyddiad.