Mae un lôn ynghau ar yr A449 ger gwesty’r Celtic Manor yng Ngwent ar ôl i fan fynd ar dân.

Roedd y fan yn cludo celfi pren.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 10.10 fore Sadwrn.

Mae’r ffordd ynghau rhwng cyfnewidfa Brynbuga a chyffordd 24 yr M4.