Canol Caerdydd (Llun: Cyngor Caerdydd)
Gallai adeilad 22 llawr newydd gael ei godi yng nghanol dinas Caerdydd pe bai cynlluniau’n cael eu cymeradwyo.

Cwmni JR Smart sydd wedi cyflwyno’r cais ar gyfer y safle yn Stryd John, ac fe fyddai’n rhan o ddatblygiad y ‘Capital Quarter’.

Gallai’r adeilad gynnal 3,600 o weithwyr, gyda siopau, caffis a bwytai yn cael eu codi yno.

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i greu gwagle awyr agored ar ben yr adeilad.

Daeth JR Smart i gytundeb gyda Llywodraeth Cymru i brynu’r safle y llynedd.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni bod y datblygiad yn “gyfle sylweddol ar gyfer ail-ddatblygu trefol”.

Dywedodd y cwmni y byddai’r adeilad yn “sylweddol yng nghyd-destun y ddinas gyfan”.

Mae gan y cwmni nifer o adeiladau yng Nghaerdydd eisoes, gan gynnwys lleoliad sy’n gartref i Gyllid Cymru, Network Rail ac Opus Energy ymhlith eraill.