Mae Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda chynlluniau i sefydlu ysgol feddygol ym Mangor.

Dywedodd Sian Gwenllian bod hyfforddi a recriwtio mwy o staff meddygol yn hanfodol i sicrhau cynaladwyedd y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd fod angen yr ysgol feddygol “er mwyn sicrhau cynaladwyaeth ein gwasanaethau ysbyty”, gan ychwanegu ei bod yn “falch iawn o gael cyfle arall i godi’r mater gyda Llywodraeth Cymru yr wythnos hon”.

Yn ôl Sian Gwenllian, “Mae cytundeb Plaid Cymru gyda Llywodraeth Cymru yn gosod y seiliau i Ysgol Feddygol ym Mangor ac felly’n sicrhau ymrwymiad dros hyfforddi a recriwtio rhagor o ddoctoriaid a meddygon teulu yng Nghymru, a byddaf yn dal ati i bwyso ar y llywodraeth Lafur i weithredu’r nod yma”

Derbyniodd Sian Gwenllian gefnogaeth Betsan Gruffydd, myfyrwraig o Gaernarfon sy’n astudio meddygaeth yng Ngholeg Queen’s, Belfast.

Dyweodd Betsan Gruffydd, “Rwy’n gwybod y byddai nifer o’n ffrindiau wedi gwerthfawrogi cael yr opsiwn i astudio yn agosach at adra.

“Mae’n wir i ddeud bod pobol ifanc yn hoff o grwydro, ond dydi hynny ddim yn wir am bawb chwaith, ac yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, nid pawb fedr fforddio astudio’n bell o adre”

Aros yn nes at adref

Yn ôl Betsan Gruffydd, “Petai yna Ysgol Feddygol ym Mangor mi fyddai’n sicr yn denu’r rhai sydd am aros yn agosach at adre, ac mi fyddai’n opsiwn fforddiadwy i’r rhai sy’n methu fforddio mynd rhy bell. “

Ychwanegodd, “Mae gen i ffrindiau sydd wedi eu magu mewn ardaloedd gwledig a fyddai wedi hoffi medru astudio a gwneud eu profiad gwaith mewn ardal wledig – dydyn nhw ddim isho mynd i Gaerdydd neu Lerpwl. Petai’r dewis ganddyn nhw i astudio yn y Gogledd mae’n bosib iawn y byddan nhw wedi dewis setlo yma a chael gwaith yn Ysbyty Gwynedd neu Ysbyty Glan Clwyd.”