Barack Obama
Fe fydd Barack Obama yn cwrdd â pherthnasau pum swyddog yr heddlu a gafodd eu lladd yn Dallas ar ôl i ddyn arfog danio gwn atyn nhw yn ystod rali brotest.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi rhyddhau manylion ymweliad yr Arlywydd a Dallas ddydd Mawrth ar ôl iddo gael gwahoddiad gan y Maer Mike Rawlings.

Fe fydd  Barack Obama yn cwrdd â pherthnasau’r swyddogion yn breifat, mewn digwyddiad sydd hefyd yn cael ei fynychu gan y Dirprwy Arlywydd Joe Biden, a George W Bush a’i wraig, Laura.

Cafodd saith plismon hefyd eu hanafu ddydd Iau ar ôl i Micah Johnson gynnal ymosodiad yn ystod yr orymdaith a gafodd ei chynnal i brotestio yn erbyn dau ddigwyddiad wythnos ddiwethaf pan gafodd dau ddyn du eu lladd gan yr heddlu yn  Louisiana and Minnesota.

Cafodd Micah Johnson, cyn-filwr croenddu, ei ladd yn ddiweddarach gan yr heddlu yn dilyn dwy awr o drafodaethau.

Yn ôl yr awdurdodau roedd Johnson wedi bwriadu cynnal ymosodiad ers tro, a chafwyd hyd i ddeunyddiau i wneud ffrwydron yn ei gartref.

Yn y cyfamser mae’r protestiadau yn sgil marwolaeth Philando Castile, 32, yn St Paul ac Alton Sterling, 37, yn Baton Rouge, Louisiana yn parhau.

Mae Barack Obama wedi galw am fwy o “barch a goddefgarwch” gan swyddogion yr heddlu tuag at y bobl maen nhw’n ei amddiffyn, yn ogystal â gan unigolion sy’n credu bod yr heddlu yn rhy lawdrwm. Mae wedi apelio ar y ddwy ochr “i wrando ar ei gilydd.”