Angela Eagle Llun: Lauren Hurley/PA Wire
Mae Angela Eagle yn bwriadu lansio’i hymgyrch yn ffurfiol heddiw i herio arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Mae’r cyn-lefarydd busnes yr wrthblaid yn mynnu y gall hi achub Llafur ymysg rhybuddion y gallai’r ffrae dros arweinyddiaeth y blaid arwain at rwyg hirdymor.

Ac mae Jeremy Corbyn wedi cyhoeddi y bydd yntau’n herio unrhyw her i geisio dal ei afael ar yr awenau, er gwaetha’r ffaith iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder gan ei ASau ei hun.

‘Angen achub Llafur’

Dywedodd Angela Eagle ei bod am herio Jeremy Corbyn oherwydd pryderon am allu’r blaid i lwyddo mewn etholiad cyffredinol arall, gan ddweud nad yw’n teimlo bod y Blaid yn “cysylltu gyda’n pleidleiswyr.”

“Mae angen achub y Blaid Lafur,” meddai gan ddweud ei bod yn hyderus y gallai wneud y blaid yn “berthnasol eto fel y gallwn ni gystadlu am lywodraeth.”

“Rwyf am sicrhau fod ein gwlad yn gallu cael ei iachau ar ôl y sioc ofnadwy fod Brexit yn mynd i niweidio hynny.”

Ychwanegodd Eagle, 55 oed, ei bod yn meddwl y gallai wneud Prif Weinidog da – “rwy’n ddynes o ddosbarth gweithiol y gogledd, ac rwy’n deall pethau metropolitan hefyd.”

Mae gan Angela Eagle gefnogaeth 51 o ASau, y nifer sydd ei angen i gynnal her ffurfiol, ond nid yw’n glir eto a fydd angen cefnogaeth ASau ar Jeremy Corbyn i frwydro’r her am arweinyddiaeth.

Fe fydd Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol (NEC) y blaid yn penderfynu ar reolau’r ymgyrch unwaith y bydd yr ymgyrch wedi’i lansio’n ffurfiol.

‘Uno’r blaid’

Yn y cyfamser, enw posib arall i geisio am yr arweinyddiaeth ydy Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith.

Dywedodd fod argyfwng yn wynebu’r Blaid Lafur, “ac mae’n digwydd ar adeg pan fod ein gwlad mewn dybryd angen am Blaid Lafur unedig i siarad dros Brydain,” meddai.

“Dw i’n dal yn ymroddedig i wneud unrhyw beth sy’n angenrheidiol i rwystro hollt ac uno’r blaid.”