Andrea Leadsom, a Theresa May Llun: PA
Mae Andrea Leadsom wedi ymddiheuro i’w chyd-ymgeisydd, Theresa May, am ffrae a gododd yn dilyn ei sylwadau oedd ei bod yn fwy cymwys i fod yn Brif Weinidog am fod ganddi blant.

Dywedodd y Gweinidog Ynni ei bod wedi teimlo “o dan ymosodiad” ers ei sylwadau ym mhapur newydd The Times ddydd Sadwrn.

Yn y papur, caiff Andrea Leadsom ei dyfynnu’n cyfeirio at y ffaith fod ganddi dri o blant, ac nad oes gan ei gwrthwynebydd, yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May, ddim plant.

Mae’n dweud: “Ond mae gen i blant a dw i’n credu bod bod yn fam yn golygu fod gennych chi ran yn nyfodol ein gwlad.”

Ymddiheuro

 

Er hyn, mae Andrea Leadsom yn mynnu nad yw’r erthygl yn adlewyrchu ei barn, ac mewn cyfweliad gyda’r Daily Telegraph heddiw mae’n dweud nad yw cael plant yn “effeithio ar eich gallu i fod yn Brif Weinidog.”

Dywedodd na ddylai’r mater o fod yn fam chwarae rhan yn yr ymgyrch ac “rwy’n difaru’n fawr fod unrhyw un wedi cael yr argraff fy mod yn meddwl yn wahanol.”

“Cefais fy mhwyso i ddweud sut oedd fy mhlant wedi dylanwadu ar fy ngolygon,” meddai.

Ychwanegodd ei bod eisoes wedi ymddiheuro wrth Theresa May gan ddweud fod yr erthygl “wedi dweud y gwrthwyneb i’r hyn rwy’n credu.”

Ond, mae wedi’i beirniadu’n hallt gan rai o’i chyd ASau gan gynnwys yr Ysgrifennydd Busnes Anna Soubry a ddywedodd “nad yw’n ffit i fod yn Brif Weinidog.”

Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, wedi siarad yn gyhoeddus yn flaenorol am brofiad ei gŵr a hithau o fethu â chael plant.