Barack Obama (llun: PA)
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi apelio ar Americanwyr i beidio ag anobeithio wedi helyntion yr wythnos ddiwethaf.
Wrth geisio lleddfu ofnau ar ôl i bum heddwas gael eu saethu’n farw yn Dallas a dau ddyn du gael eu lladd gan yr heddlu yn Minnesota a Louisiana, mynnodd nad yw’r wlad wedi ei hollti’n ddwy garfan.
“Er mor boenus mae’r wythnos yma wedi bod, dw i’n credu’n gryf nad yw America mor rhanedig ag mae rhai wedi awgrymu,” meddai.
“Pan mae pobl yn sôn ein bod ni’n ôl yn yr un sefyllfa â’r 1960au, dyw hynny ddim yn wir. Does dim reiats, a dydych chi ddim yn gweld heddlu’n mynd ar ôl pobl sy’n protestio’n heddychlon.
“Allwn ni ddim gadael i weithredoedd ychydig o bobl ddiffinio pawb ohonom.”
Ymosodiadau
Mae’r awdurdodau yn America wedi enwi’r dyn a saethodd bump o blismyn yn Dallas nos Iau fel Micah Johnson, Americanwr Affricanaidd 25 oed, a oedd wedi dweud fod arno eisiau lladd pobl wyn, yn enwedig plismyn gwyn.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar ddiwedd rali a gorymdaith yn erbyn marwolaethau Philando Castile yn St Paul Minnesota ddydd Mercher ac Alton Sterling yn Baton Rouge, Lousiana ddydd Mawrth. Roedd y ddau ddyn du wedi cael eu saethu gan yr heddlu.
“Mae Americanwyr o bob hil a chefndir wedi cael eu cythruddo gan yr ymosodiadau ar yr heddlu, boed yn Dallas neu unrhyw le arall,” meddai.
Dywedodd eu bod nhw wedi cael ei tristau a’u digio gan farwolaethau Sterling a Castile hefyd, yn ogystal â’r “broblem fwy a pharhaus o Americanwyr Affricanaidd a Lladinaidd yn cael eu trin yn wahanol yn ein system cyfiawnder troseddol.”
Rheoli drylliau
Dywedodd Barack Obama ei fod yn benderfynol o barhau i geisio cael mesurau i gyfyngu ar ddrylliau yn y wlad.
“Allwn ni ddim dileu pob tensiwn hiliol yn ein gwlad dros nos,” meddai. “Allwn ni ddim achub y blaen ar bob gwallgofddyn a allai fod eisiau niweidio pobl ddiniwed.
“Ond fe allwn ni ei gwneud yn fwy anodd iddyn nhw wneud hynny.”
Daw sylwadau’r arlywydd wrth i brotestiadau gael eu cynnal mewn dinasoedd ledled y wlad yn erbyn y llofruddiaethau gan yr heddlu.
Yn ogystal â St Paul Minnesota a Baton Rouge Louisiana lle cafodd y ddau ddyn eu lladd, mae protestiadau wedi bod yn Efrog Newydd, Washington, San Francisco, Nashvilee Tennessee ac Indianapolis, Indiana.