Osama bin Laden
Mae mab Osama bin Laden wedi bygwth dial yn erbyn America ar ôl i’w lluoedd ladd ei dad, arweinydd al Qaida, yn 2011.

Mewn fideo sydd wedi ei gyhoeddi gan As-Sahab, cangen gyhoeddusrwydd al Qaida, dywed Hamza bin Laden wrth Americanwyr eu bod yn gyfrifol am benderfyniadau eu harweinwyr.

Mae’n rhybuddio y bydd al Qaida yn parhau i ymladd jihad, neu ryfel sanctaidd, yn erbyn yr Unol Daleithiau mewn ymateb i’r ffordd y mae yn “gormesu” Mwslimiaid.

“Os credwch fod eich trosedd bechadurus y gwnaethoch ei chyflawni yn Abbottabad wedi cael ei hanghofio heb gosb, yna roeddech yn credu’n anghywir,” meddai.

Cafodd Osama Bin Laden ei ladd mewn cyrch gan luoedd arbennig America yn ei gartref yn Abbottabad, Pacistan ym mis Mai 2011.

Nid yw’n hysbys lle mae ei fab ar hyn o bryd, a’r dyfalu yw ei fod yn paratoi at fod yn arweinydd al Qaida.