Fe fydd cynnig o ddirmyg yn erbyn y cyn-brif weinidog Tony Blair yn cael ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau.
Ymysg yr Aelodau Seneddol o chwe gwahanol plaid sydd wedi helpu llunio’r cynnig mae Alex Salmond o’r SNP, Hywel Williams o Blaid Cymru, David Davis o’r Ceidwadwyr a Caroline Lucas o’r Blaid Werdd.
Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, hefyd wedi awgrymu y byddai’n debygol o bleidleisio dros y cynnig, er bod ei wrthwynebydd Angela Eagle wedi mynegi mwy o amheuon.
“Mae’r dystiolaeth yn erbyn Tony Blair yn adroddiad Chilcot yn ddamniol,” meddai Hywel Williams.
“Mae wedi camarwain y senedd i’n harwain i ryfel anghyfiawn ac anghyfreithlon, ac felly’n mae’n iawn fod Aelodau Seneddol yn trafod camau posibl yn ei erbyn.”
Dywedodd Caroline Lucas yr hoffai weld Tony Blair yn cael ei wahardd rhag dal swydd gyhoeddus ac yn cael ei ddiarddel o’r Cyfrin Gyngor.