Chris Coleman yn cyrraedd Cymru'n ôl ddydd Gwener
Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi talu teyrnged i’r rheolwr mwyaf llwyddiannus yn eu hanes.

Dywed Jonathan Ford ei fod yn ffyddiog y byddan nhw’n dal gafael ar Chris Coleman pa bynnag gynigion a gaiff gan glybiau o’r Uwch-Gynghrair dros y misoedd nesaf.

Fe wnaeth Chris Coleman gadarnhau ddoe y bydd yn aros yn ei swydd tan ar ôl gemau Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018, ond y byddai’n rhoi’r gorau iddi wedyn.

Er bod Jonathan Ford yn cydnabod na allai orfodi Coleman i aros pe bai’n dymuno gadael cyn hynny, dywed nad yw’n poeni am hyn.

“Mae Chris wedi ymrwymo’n llwyr i’r Cymry,” meddai. “Mae’n Gymro i’r carn, ac fe fyddai’n rhedeg trwy waliau o frics inni.

“Rydym wrth ein boddau â’r cynnydd y mae wedi’i wneud, a dw i’n meddwl ei fod yntau hefyd wrth ei fodd â job mae wedi’i wneud.”

Gwaith tîm

Aeth Jonathan Ford ymlaen i ddweud fod llwyddiant Cymru yn Euro 2016 i’w briodoli’n gyfan gwbl i waith tîm.

“Mae’r tîm yn gyrru ymlaen fel criw o frodyr, ond mae angen diolch i’r staff sy’n gweithio yn y cefndir, a holl staff FA Cymru,” meddai.

“Rydym wedi gweithio mor galed i wireddu hyn, a rhaid inni ddiolch i’r cefnogwyr sydd wedi bod yn ffantastig. Rydym wedi dod at ein gilydd yn y ffordd iawn – mae gorau chwarae cyd-chwarae wedi cyflawni mwy nag y gallen ni freuddwydio”

Dywedodd mai un penderfyniad allweddol oedd buddsoddi’r ffi am gymryd rhan yn y cyfleusterau gorau bosibl.

“Yr arian a gewch ar gychwyn y twrnameint i’ch galluogi chi i gymryd rhan. Fe es i at y bwrdd a dweud: ‘Dw i eisiau ei wario i gyd’.

“Fe wnaethon nhw gytuno, ac fe gawson ni’r gwesty gorau y gallen ni, fe gawson ni’r cyfleusterau yn iawn, a gwario’r arian i roi’r siawns gorau i’r bechgyn ar y cae, ac fe wnaeth weithio.

“Mae manteision ychwanegol – rydych chi’n cael mwy o arian wrth ichi symud ymlaen trwy’r twrnameint ac wrth gwrs mwy o bobl yn prynu mwy a grysau. Roedd yn wych mynd yn ôl i fôr o goch – y Wal Goch fel mae’n cael ei galw.”