Bydd Morgannwg yn herio Swydd Gaerloyw yn y T20 Blast ddydd Sul wrth iddyn nhw anelu am drydedd buddugoliaeth o’r bron yn dilyn eu llwyddiant yn erbyn Siarcod Swydd Sussex a Swydd Middlesex dros y dyddiau diwethaf.

Mae disgwyl i David Lloyd a Mark Wallace agor y batio unwaith eto wrth i Jacques Rudolph lithro i lawr y drefn fatio.

Mae Morgannwg ar frig y tabl ac mae ganddyn nhw gêm wrth gefn o’i gymharu â Swydd Gaerloyw, sy’n ail yn y tabl, ac fe allai buddugoliaeth i’r Cymry sicrhau gêm gartref yn rownd yr wyth olaf.

Fe gollodd Swydd Gaerloyw yn erbyn Swydd Gaint nos Wener, ac roedd hynny’n golygu bod Morgannwg wedi codi uwch eu pennau unwaith eto.

Dim ond ddwywaith mae Swydd Gaerloyw wedi curo Morgannwg yng Nghaerdydd yn y gystadleuaeth hon, ac fe fyddai buddugoliaeth bellach i Forgannwg yn torri’r record am y nifer o fuddugoliaethau i’r Cymry yn y gystadleuaeth hon mewn un tymor.

Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), D Lloyd, M Wallace, C Ingram, A Donald, C Cooke, G Wagg, C Meschede, R Smith, D Cosker, M Hogan, T van der Gugten, S Tait.