Adeiladodd dau Gymro, Mark Wallace a David Lloyd bartneriaeth o 125 wrth i Forgannwg chwalu Swydd Middlesex o naw wiced yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast yn Old Deer Park yn Richmond nos Wener.
Ar ôl galw’n gywir, penderfynodd capten Morgannwg, Jacques Rudolph wahodd y Saeson i fatio’n gyntaf ac roedd y canlyniad bron yn anochel o fewn wyth pelawd wrth i Swydd Middlesex lithro i 39-5.
Ond sicrhaodd y Gwyddel Eoin Morgan (58) a Ryan Higgins (57) fod cyfanswm y Saeson yn barchus ac roedd gan Forgannwg nod o 145, ar ôl i Swydd Middlesex orffen eu batiad ar 144-8.
Cipiodd y ddau Awstraliad, Shaun Tait a Michael Hogan a’r Iseldirwr ddwy wiced yr un.
O’r cychwyn cyntaf, gwnaeth batwyr Morgannwg osod eu stamp ar yr ornest, wrth i Mark Wallace (69 heb fod allan) a David Lloyd (49) ddechrau’r batiad gyda phartneriaeth o 125.
Ar ôl colli’r wiced gyntaf, daeth Colin Ingram i’r llain a tharo tri chwech yn olynol i gau pen y mwdwl ar yr ornest.
Ar ôl ennill saith allan o wyth gêm mor belled, dylai dwy fuddugoliaeth i Forgannwg o blith y pum gêm sy’n weddill fod yn ddigon i sicrhau eu lle yn rownd yr wyth olaf.
Fformiwla sy’n gweithio
Ar ddiwedd yr ornest, dywedodd Mark Wallace: “Ry’n ni wedi chwarae criced undydd da iawn y tymor yma.
“Mae gyda ni fformiwla sy’n gweithio yn y gystadleuaeth hon ac mewn gemau 50 pelawd hefyd – ry’n ni wedi’i chael hi’n anodd yn y Bencampwriaeth ond yn y T20, unwaith gewch chi rywfaint o hyder, mae’n anhygoel gymaint y gall cit lliwgar a’r bêl wen roi rhyddid i chi.
“Mae gyda ni ymosod da iawn, ry’n ni’n ceisio cipio wicedi ac adeiladu’r pwysau, ond fe enillon ni drwy fatio’n gyntaf a bowlio’n ail hefyd.”
Grawnwin surion?
Ond ar ôl colli, mynegodd capten Swydd Middlesex, Dawid Malan ei rwystredigaeth ynghylch y penderfyniad i gynnal y gêm yn Richmond yn hytrach nag yn Lord’s.
“Mae’n rhwystredig dod o gae sirol i gae clwb. Yn bersonol, dw i ddim yn credu y dylai cricedwyr proffesiynol chwarae ar gaeau clybiau, dy’ch chi byth yn gwybod pa fath o lain gewch chi.
“Gobeithio y daw’r adeg pan na fydd rhaid i ni chwarae ar y lleiniau hyn eto.”