Mae adroddiadau bod dyn oedd yn saethu at yr heddlu yn ninas Dallas, Texas, bellach wedi ei ladd.

Roedd yr heddlu wedi ei amgylchynu ger garej yng nghanol y ddinas, ar ôl iddo fygwth lladd rhagor o blismyn a dweud bod bomiau wedi cael eu gosod yn y garej.

Mae pum plismon wedi eu saethu yn farw gan o leiaf dau saethwr cudd (snipers) wrth i brotestiadau gael eu cynnal yn dilyn lladd dau ddyn du yn America – yr enghraifft ddiweddaraf o farwolaethau tebyg.

Mae’r heddlu lleol yn dweud bod tri wedi cael eu harestio yn dilyn y saethu a anafodd chwe heddwas arall.

Protestiadau ledled America

Bu protestiadau ledled America ar ôl i fideos o ddau ddyn croenddu – Alton Sterling, 37, a Philando Castile, 32 – gael eu lledaenu tros y We. Mae’r lluniau o’r ddau yn cael eu saethu yn farw gan heddlu wedi eu  darlledu ar gyfryngau America a ledled y byd ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd Philando Castile o Minnesota wedi cael ei ladd gan yr heddlu pan oedd mewn car â’i gariad a’i merch hi wrth ei ochr.

Cyn hynny, cafodd fideo ei gyhoeddi yn dangos Alton Sterling yn cael ei ddal i lawr gan ddau heddwas cyn i un ei saethu’n farw yn Louisiana ddydd Mawrth.