Mae’r ymgyrchu wedi dechrau ymhlith 150,000 o aelodau’r Blaid Geidwadol er mwyn dewis Prif Weinidog benywaidd nesa’ gwledydd Prydain.
Erbyn 9 Medi, fe fydd y blaid wedi dewis rhwng yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, a’r Gweinidog Ynni, Andrea Leadsom.
Ond mae galwadau hefyd am gyflymu’r broses er mwyn dod â sefydlogrwydd yn sgil y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dewis rhwng dwy
Y ddwy wraig a gafodd eu dewis gan ASau’r Ceidwadwyr i ddilyn David Cameron ar ôl iddo ef gyhoeddi ei ymddiswyddiad ar ôl y refferendwm.
- Mae cefnogwyr Theresa May yn pwysleisio’i phrofiad hir hi yn Ysgrifennydd Cartref yn y cabinet Ceidwadol a’r angen am brofiad o’r fath i arwain y trafodaethau i adael yr Undeb.
- Does gan Andrea Leadsom ddim profiad cabinet ond mae ei chefnogwyr hi’n pwysleisio bod ganddi brofiad yn y byd ariannol ac, yn wahanol i Theresa May, roedd hi wedi ymgyrchu tros adael.
Fe fydd cyfres o gyfarfodydd hysting yn cael eu cynnal ar hyd a lled gwledydd Prydain a’r papurau pleidleisio’n cael eu hanfon at aelodau ganol mis Awst.
Y disgwyl yw y bydd y Prif Weinidog nesa’ wedi cyrraedd Rhif Deg Downing Street cyn i’r Senedd ailagor wedi gwyliau’r ha’.