Y papur lleol yn rhoi sylw i'r digwyddiad
Mae pump plismon wedi cael eu lladd gan o leiaf dau saethwr cudd mewn protestiadau hawliau pobol ddu yn ninas Dallas, Texas.

Fe gafodd chwech heddwas eu hanafu hefyd ac, yn ddiweddarach, roedd adroddiadau fod tri pherson wedi cael eu harestio ac un arall yn parhau i saethu at blismyn.

Y gred yw fod dau ddyn wedi dechrau saethu at heddlu oedd yn gwylio gorymdaith heddychlon i brotestio yn erbyn lladd dau ddyn du gan blismyn yn ystod y dyddiau diwetha’.

Pedwar oedd nifer y marwolaethau i ddechrau ond fe fu heddwas arall farw’n ddiweddarach.

Protestiadau dros farwolaethau pobol ddu

Roedd protestiadau ledled America nos Iau ar ôl i ddau ddyn du gael eu lladd gan yr heddlu mewn dau ddigwyddiad gwahanol – y diweddara’ mewn cyfres hir o farwolaethau o’r fath.

Mae fideos o’r ddau ddyn – Alton Sterling, 37, a Philando Castile, 32 – yn cael eu saethu wedi’u darlledu ar gyfryngau America a ledled y byd ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd Philando Castile o Minnesota wedi cael ei ladd gan yr heddlu pan oedd mewn car a’i gariad a’i merch hi wrth ei ochr.

Cyn hynny, cafodd fideo ei gyhoeddi yn dangos Alton Sterling yn cael ei ddal i lawr gan ddau heddwas cyn i un ei saethu’n farw yn Louisiana ddydd Mawrth.

Beyoncé – “ofn ddim yn esgus”

Neithiwr, roedd y gantores bop Beyoncé wedi cynnal munud o dawelwch yn ei chyngerdd yn Glasgow er cof am y ddau ddyn, gyda sgrin anferth yn dangos eu henwau.

“Does dim angen cydymdeimlad arnon ni,” meddai’r gantores ddu mewn neges Instagram. “R’yn ni  angen i bawb barchu ein bywydau… Dydy ofn ddim yn esgus. Fydd casineb ddim yn ennill.”

Yn ôl Arlywydd America, Barack Obama, mae’r ddwy farwolaeth “yn broblem Americanaidd y dylen ni i gyd bryderu amdani”.