Ken Skates yn trefnu'r gynhadledd (Llu y Cynulliad)
Bydd arweinwyr busnes a gwleidyddion o ddwy ochr Clawdd Offa’n dod ynghyd heddiw i drafod sut y gall Gogledd Cymru fanteisio ar y cyfleoedd economaidd sy’n deillio o Bwerdy Gogledd Lloegr.

Mae’r gynhadledd wedi ei threfnu gan Ysgrifennydd Cymru dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates, a’i bwriad yw trafod sut mae cyflymu datblygiad yr economi bob ochr y ffin.

Ymysg y rhai yn y gynhadledd yn Sir y Fflint, bydd gweinidog y Swyddfa Gymreig, Guto Bebb, a chynrychiolwyr Sefydliad y Cyfarwyddwyr, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Cyngor Busnes Gogledd Cymru ac eraill.

‘Sbarduno twf’

Wrth siarad cyn y gynhadledd, meddai Ken Skates ei fod eisiau sbarduno ffyniant a thwf economaidd ar draws gogledd Cymru.

“Mae Pwerdy Gogledd Lloegr yn gyfle anferth i’r Gogledd ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Gymru ran amlwg iawn ym mhob penderfyniad a datblygiad er mwyn sicrhau’r dyfodol gorau posibl i’r rhanbarth,” meddai.

“Rwyf am ddefnyddio’r gynhadledd i drafod yr amrywiaeth o ffyrdd a allai, yn fy marn i, ein helpu i greu bwa o ffyniant o Gaergybi draw i Fanceinion a thu hwnt.”