Neuadd Bataclan wedi'r ymosodiadau ym Mharis Llun: PA
Mae ymchwiliad seneddol yn Ffrainc i ‘r ymosodiadau brawychol a laddodd 147 o bobol ym Mharis y llynedd wedi canfod sawl methiant yn asiantaethau diogelwch y wlad.

Mae’r ymchwiliad wedi annog sefydlu asiantaeth gwrth-frawychiaeth tebyg i un yn America er mwyn atal rhagor o ymosodiadau gan y grŵp eithafol, y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Dywedodd y gwleidydd ceidwadol, Georges Fenech, oedd yn arwain yr ymchwiliad, fod pob un o’r ymosodwyr yn hysbys i’r awdurdodau.

Roedd rhai wedi’u cael yn euog o droseddau eraill yn y gorffennol neu yn cael eu gwylio gan yr awdurdodau.

Yn ôl Georges Fenech, mae’r awdurdodau diogelwch a gafodd eu holi wedi cydnabod y bu methiannau.

Asiantaeth gwrth-frawychiaeth

Awgrymodd y dylid sefydlu asiantaeth gwrth-frawychiaeth, fel yr un gafodd ei chreu yn yr Unol Daleithiau yn dilyn ymosodiadau 9/11 .

Mae senedd Ffrainc hefyd wedi awgrymu gwell cydweithio rhwng asiantaethau diogelwch ar draws Ewrop.

Roedd yr ymosodiadau wedi targedu marchnad cosher, y papur newyddion dychanol Charlie Hebdo, neuadd gyngerdd y Bataclan, y stadiwm genedlaethol a chaffis ym Mharis.