Mae meddygon iau a myfyrwyr meddygol Lloegr wedi pleidleisio o blaid gwrthod cytundeb newydd rhwng y Gymdeithas Feddygol Brydeinig (BMA) a Llywodraeth Prydain.
Roedd y BMA wedi annog meddygon i gytuno â’r telerau newydd, ond fe bleidleisiodd 58% yn erbyn a 42% o blaid.
68% o’r rhai oedd yn gallu pleidleisio a wnaeth hynny – sef tua 37,000 o feddygon iau a myfyrwyr meddygol yn Lloegr.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, ei fod yn “hynod siomedig” gyda’r penderfyniad.
Yn dilyn y canlyniad, fe wnaeth Dr Johann Malawana, pennaeth pwyllgor meddygon iau y BMA ymddiswyddo.
Ac mae adroddiadau bod y Gweinidog dros Ofal Cymunedol a Chymdeithasol, Alastair Burt, wedi dweud y bydd yn ymddiswyddo ym mis Medi.
Mae cyfres o chwe streic wedi digwydd ledled Lloegr yn ystod yr anghydfod diweddar rhwng meddygon iau a’r Llywodraeth, gan orfod canslo cannoedd ar filoedd o apwyntiadau a llawdriniaethau.
Mae’n annelwig ar hyn o bryd beth fydd yn digwydd yn y dyfodol ac mae llefarydd ar ran y BMA wedi dweud nad oes cynlluniau am streiciau eraill yn y dyfodol.