Mae pobol Awstralia yn pleidleisio mewn etholiad cyffredinol heddiw, a’r gobaith yw y bydd y canlyniad yn dod a sefydlogrwydd i lywodraeth sydd wedi bod yn ymladd ymysg ei gilydd ers blynyddoedd.
Yn yr etholiad hwn, mae’r llywodraeth glymblaid geidwadol yn mynd ben-ben efo’r Blaid Lafur, ac mae’n dod ar ddiwedd cyfnod tymhestlog iawn yng ngwleidyddiaeth y wlad.
Pe bai Llafur yn ennill, fe fyddai arweinydd y blaid, Bill Shorten, y pumed prif weinidog i’r wlad ei gael yn y tair blynedd diwetha’.
Ond, yn y sefyllfa bresennol, ac yn dilyn yr ansicrwydd economaidd yn dilyn pleidlais Brexit, mae’r prif weinidog presennol, Malcolm Turnbull, wedi rhybuddio rhag y risg o fynd i’r chwith.
“Mewn byd ansicr, mae Llafur yn cynnig mwy o ansicrwydd,” rhybuddiodd Malcolm Turnbull. “Does ganddyn nhw ddim oll i’w gynnig o ran creu swyddi na thyfu’r economi.”
Ond mae Llafur, ar y pegwn arall, wedi treulio’r deufis diwetha’n ymgyrchu er mwyn tynnu sylw at y rhwygiadau yn llywodraeth Mr Turnbull.