Mae Stephen Crabb wedi galw’r bleidlais tros Brexit yn “gyfle newydd” i wledydd Prydain, ond mae hefyd wedi rhybuddio y bydd angen “hwb cenedlaethol” er mwyn dod trwyddi.
Mewn cyfweliad ym mhapur newydd The Times heddiw, mae Aelod Seneddol Preseli Penfro sydd hefyd yn un or ymgeiswyr i fod yn arweinydd nesa’r blaid Geidwadol, yn dweud y bydd y bleidlais ‘Allan’ yn cael ei gwireddu… ond bod angen sefydlu be’ fydd yr “egwyddorion” a fydd yn arwain y trafodaethau i adael yr UE.
“Mae’n hanfodol fod y blaid yn dangos y newid mawr sydd ei angen o ran mewnfudo fel rhan o’r broses.
“Yn economaidd,” meddai wedyn, “mae cael mynediad i’r farchnad sengl yn beth da… ond os na fydd newid go iawn wedi bod yn ein hegwyddorion erbyn diwedd y drafodaeth tros adael, fydd yr etholwyr ddim yn gallu ymddiried ynddon ni.”
Er mwyn i Brexit ddod a llewyrch newydd i wledydd Prydain, meddai Stephen Crabb, mae angen i’r blaid Geidwadol uno.
“Os ydyn ni am oresgyn yr holl risgiau economaidd, mae angen i ni fod yn unedig, ac mae angen hwb yn genedlaethol,” meddai. “Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar gael ein pobol i sefyllfa lle nad ydi ein busnesau’n gorfod dibynnu ar bobol o ddwyrain Ewrop.”