Mae pump o bobol wedi’u lladd, a beth bynnag 20 o bobol wedi’u hanafu, wedi i ddyn fynd i mewn i gaffi yng ngogledd Serbia a phupuro’r lle gyda bwledi.

Fe gafodd y dyn ei arestio wedi’r ymosodiad toc wedi dau o’r gloch y bore, ddydd Sadwrn, mewn pentre’ ger tre’ Zrenjanin.

Yn ol datganiad gan heddlu lleol, roedd y dyn wedi lladd ei wraig a dynes arall yn gynta’, cyn troi at bobol eraill oedd yn y caffi.

Dyw hi ddim yn glir eto beth oedd ei resymau tros ddechrau saethu. Mae’r dyn wedi’i adnabod gan yr heddlu gyda’r ddwy lythyren, ZS.