Mae ugain o wystlon wedi cael eu lladd yn ystod ymosodiad ar gaffi yn Dhaka, prifddinas Bangladesh.
Fe gafodd beth bynnag chwech o wrthryfelwyr hefyd eu lladd, wrth i 13 o wystlon gael eu hachub gan luoedd diogelwch Bangladesh ar ddiwedd deg awr o warchae mewn bwyty poblogaidd iawn gyda thramorwyr.
Fe ymosododd dynion arfog ar fecws Holey Artisan Bakery yn ardal ddipomyddol Gulshan o’r brifddinas, nos Wener.
Mae llefarydd ar ran llywodraeth Japan wedi cadarnhau fod un gwystl o’r wlad honno wedi’i achub, ond bod saith o bobol eraill yn dal i fod ar goll.