Donald Trump (llun: AP/David Goldman)
Mae Prydeiniwr ifanc, sydd wedi’i gyhuddo o geisio cymryd gwn gan swyddog yr heddlu mewn ymgais i ladd Donald Trump, wedi cael ei gyhuddo’n swyddogol yn yr Unol Daleithiau.
Cafodd Michael Steven Sandford, 20, o Dorking yn Surrey ei arestio yn ystod rali mewn casino yn Las Vegas ar 18 Mehefin ar ôl rhuthro at y gwn wrth iddo ofyn am lofnod ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr.
Roedd Sandford, a oedd yn yr Unol Daleithiau heb ganiatâd, wedi dweud wrth yr heddlu ei fod eisiau lladd Donald Trump, yn ôl y Gwasanaethau Cudd.
Dywedodd yr awdurdodau ei fod wedi cael ei gyhuddo o amharu ar ddigwyddiad swyddogol a dau gyhuddiad yn ymwneud a throseddau gynnau.
Mae llys yn Las Vegas eisoes wedi clywed bod Sandford wedi bod yn cynllwynio’r ymosodiad ar Trump ers blwyddyn, a’i fod wedi disgwyl cael ei ladd yn ei ymdrech i wneud hynny.
Pe bai’n ei gael yn euog, gallai wynebu hyd at 30 mlynedd yn y carchar.
Mae Sandford yn cael ei gadw yn y ddalfa.