Michael Gove Llun: PA
Mae Michael Gove wedi cyhoeddi ei fod yn sefyll fel ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol.

Yn ôl Michael Gove, nid yw’n credu y gallai Boris Johnson “ddarparu’r arweiniad sydd ei angen nac adeiladu’r tîm ar gyfer y dasg o’n blaenau.”

Mae’r cyhoeddiad yn annisgwyl wedi i Michael Gove ymgyrchu’n frwd ac yn agos gyda chyn-Faer Llundain, Boris Johnson, dros adael yr UE.

Bydd ei ddatganiad yn ergyd drom i  Boris Johnson, a oedd yn disgwyl sefyll am yr arweinyddiaeth gyda chefnogaeth yr Ysgrifennydd Cyfiawnder.

 Trafodaeth ‘agored a chadarnhaol’

Dywedodd Gove: “Rydw i wedi dweud dro ar ôl tro nad ydw i eisiau bod yn brif weinidog. Dyna oedd fy marn erioed. Ond mae digwyddiadau ers dydd Iau diwethaf wedi bod yn pwyso ar fy meddwl.

“Rwy’n parchu ac yn edmygu’r holl ymgeiswyr sy’n sefyll am yr arweinyddiaeth. Yn enwedig, roeddwn i eisiau adeiladu tîm y tu ôl i Boris Johnson fel y gallai gwleidydd a oedd wedi dadlau dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn gallu ein harwain at ddyfodol gwell.

“Ond, rwyf wedi dod i’r casgliad nad yw Boris yn gallu darparu’r arweiniad sydd ei angen nac adeiladu’r tîm ar gyfer y dasg o’n blaenau.”

Ychwanegodd Gove ei fod am weld trafodaeth “agored a chadarnhaol” am y llwybr y bydd y DU yn ei chymryd ac y byddai’n “parchu” beth bynnag fo canlyniad y drafodaeth honno.

Meddai hefyd y byddai’n cyhoeddi mwy am ei gynlluniau i ddarparu “undod a newid” yn y dyddiau nesaf.

Mae’r ymgyrchydd Brexit Andrea Leadsom hefyd wedi cyhoeddi ei bod hi’n sefyll fel ymgeisydd am yr arweinyddiaeth gan drydar: “Gadewch i ni wneud y mwyaf o gyfleoedd Brexit.”

Y ddau geffyl blaen

Fe fydd y ddau geffyl blaen yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, Boris Johnson a Theresa May, yn cyflwyno’u gweledigaeth ar gyfer dyfodol Prydain y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd heddiw ar ôl iddyn nhw ymuno a’r ras yn ffurfiol i olynu David Cameron.

Mae disgwyl i Boris Johnson, fu’n arwain yr ymgyrch dros adael yr UE yn ymgyrch y refferendwm, ddefnyddio ei lansiad i gyflwyno’r hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel “gweledigaeth optimistaidd, bositif” o Brydain y tu allan i’r Undeb.

Wrth lansio ei hymgyrch bore ma, mae Theresa May, a oedd wedi ymgyrchu dros aros yn yr UE,  wedi rhoi addewid i uno’r Blaid Geidwadol a’r wlad yn sgil canlyniad y refferendwm tra’n ceisio sicrhau’r cytundeb orau i’r DU yn y trafodaethau gyda Brwsel.

Dywedodd na fyddai’n dechrau’r broses o adael yr UE tan ddiwedd y flwyddyn.

Yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Stephen Crabb a’r cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox yw’r ddau ymgeisydd arall sydd wedi ymuno a’r ras am yr arweinyddiaeth.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt wedi dweud na fydd yn sefyll fel ymgeisydd ac y bydd yn cefnogi Theresa May.

Roedd yr Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan wedi awgrymu y bydd hi’n sefyll, ac mae ganddi hyd at hanner dydd heddiw i ymgeisio’n ffurfiol.

Mae disgwyl i Brif Weinidog newydd gael ei benodi ar 9 Medi.