Llun: S4C
Mae’r adroddiad diweddaraf ar ddyfodol gwasanaeth teledu cyhoeddus ym Mhrydain yn cynnig datganoli rhai cyfrifoldebau dros ddarlledu i Gymru.
Mae adroddiad yr Arglwydd Puttnam hefyd yn dweud y dylai Llywodraeth Prydain ddod o hyd i ffynhonnell arall o gyllido S4C, heblaw am y BBC.
Yn ôl ffrwyth gwaith yr ymchwiliad, a barodd wyth mis, dydy’r gwasanaeth ddim yn cyflawni digon i gynulleidfaoedd yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae’r adroddiad yn nodi y dylai’r llywodraeth ddiogelu cyllid gwasanaethau ieithoedd lleiafrifol, a “dod o hyd i ffynhonnell cyllid sefydlog i S4C heblaw am y BBC yn ei adolygiad o’r sianel yn 2017.”
Mae hefyd wedi galw am yr angen i gael lleisiau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar fwrdd unedol newydd y BBC, ac y dylai hwn fod yn “hollol annibynnol” o’r llywodraeth.
“Gwasanaeth annigonol”
“Mae’r system gwasanaeth teledu cyhoeddus heb adlewyrchu newid cyfansoddiadol y DU, gan adael cynulleidfaoedd yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon a’r rhanbarthau Saesneg heb wasanaeth digonol,” meddai’r adroddiad.
Cododd awduron yr adroddiad bryder dros gynigion darlledwyr i gynyddu cynyrchiadau ‘y tu allan i Lundain’, gan y gallai’r rhain “fethu â herio’r canoli sydd wrth wraidd ecoleg teledu yn y DU.”
Mae adroddiad yr Arglwydd Puttnam yn cynnig dull “datganoledig” i wasanaeth teledu cyhoeddus, sydd â nod o “rannu cyfrifoldeb dros faterion darlledu rhwng senedd y DU a’r cenhedloedd datganoledig.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Prydain.