Milwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf Llun: PA
Bydd gwylnos i gofio can mlynedd ers brwydr fwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf yn cael ei chynnal heddiw, gyda Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn arwain.
Y nod yw anrhydeddu milwyr o Gymru a fu’n ymladd ym Mrwydr y Somme, fel rhan o raglen Cymru’n Cofio 1914-1918.
Brwydr y Somme fydd canolbwynt y cofio, gyda’r cyhoedd, aelodau’r Fyddin, y Llynges Frenhinol, y Llu Awyr Brenhinol a’r Lleng Brydeinig yn cael gwahoddiad i’r wylnos.
Dywedodd Carwyn Jones na ddylwn “fyth anghofio’r rhai a frwydrodd yn ddewr ar gyfer ein dyfodol ni,” wrth bwysleisio’r pwysigrwydd o “ddeall y modd gwnaeth y Rhyfel Byd Cyntaf newid ein gwlad am byth.”
“Ar yr un pryd, mae angen i ni ddysgu gwersi o’r hanes hwnnw i sicrhau na welir erchyllterau o’r fath byth eto,” meddai.
Gwylnos drwy nos
Ar ddiwedd yr wylnos, sy’n dechrau am 9 o’r gloch heno ac yn gorffen am 4:30 bore fory, bydd gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei gynnal wrth Gofeb Rhyfel Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd rhwng 7:00 a 7:30 bore dydd Gwener.
Bydd hynny’n cyd-fynd â’r amser pan ddechreuodd y frwydr 100 mlynedd yn ôl.