Neuadd Pantycelyn
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi annog Prifysgol Aberystwyth i ddechrau’r gwaith o adnewyddu neuadd breswyl Pantycelyn cyn gynted â phosibl.

Meddai’r mudiad iaith bod “digon o fyfyrwyr” wedi colli cyfle i aros yn neuadd Pantycelyn “felly gorau po gyntaf” bydd y gwaith yn dechrau.

Ddoe, fe wnaeth Cyngor Prifysgol Aberystwyth gymeradwyo cynllun i ailagor Neuadd Pantycelyn, gan ymrwymo i’w hail-agor erbyn mis Medi 2019.

Bydd y gwaith adnewyddu’n creu 200 o ystafelloedd – i gyd yn rhai en-suite – a fydd yn costio tua £10 miliwn.

Pryder am gost aros

Ac er fod Cymdeithas yr Iaith yn cydnabod fod dyfodol Pantycelyn, sydd wedi yn darparu llety i fyfyrwyr Cymraeg ers 1973, mewn sefyllfa llawer gwell nag oedd hi llynedd, mae pryderon o hyd am faint fydd hi’n gostio i fyfyrwyr aros yn y neuadd pan fydd hi’n agor.

Mae Pantycelyn wedi bod gyda’r llety rhataf, am £15.50 y noson, ond roedd yr adroddiad i’r Cyngor yn amcangyfrif y gallai’r gost godi i £22.53 y noson. Er ei fod yn cynnwys bwyd, Pantycelyn fyddai llety drytaf y Brifysgol.

Mae’n debyg bod y brifysgol hefyd yn ystyried ymgyrch benodol i godi arian ar gyfer adnewyddu’r llety i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Mae’r Cyngor wedi dweud bod “amgylchiadau ariannol” y Brifysgol, ac “ansicrwydd” yn dilyn canlyniad Brexit y refferendwm yn golygu y bydd rhaid iddi “sicrhau’r cyllid angenrheidiol er mwyn gwneud ymrwymiad cwbl gadarn.”

‘Sefyllfa’n gwella’ i gymdeithas Cymraeg

Dywedodd Elfed Wyn Jones, cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith: “Mae’r adroddiad sydd wedi ei dderbyn heddiw yn nodi bydd y neuadd yn ail-agor ym mis Medi 2019 felly rydyn ni’n disgwyl gweld cynllun ar gyfer y gwaith adnewyddu yn fuan, a bod y gwaith yn dechrau cyn gynted â phosibl.

“Mae digon o fyfyrwyr wedi colli cyfle i aros yn neuadd Pantycelyn felly gorau po gyntaf bydd y gwaith yn dechrau. Fe wnaethon ni ddweud fod yr adroddiad yn rhoi Pantycelyn mewn sefyllfa llawer gwell nag oedd hi llynedd.

“Gan fod y Cyngor wedi derbyn yr adroddiad yma, gwella’n fwy fydd sefyllfa’r neuadd a chymdeithas Gymraeg myfyrwyr Aberystwyth.”

 ‘Cam arall ymlaen’

Dywedodd Cadeirydd y Cyngor a Changhellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry, fod y penderfyniad wedi nodi “cam arall ymlaen yn ein hymroddiad i ddarparu llety o’r radd flaenaf ym Mhantycelyn ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n dod i Aberystwyth yn y dyfodol”.

Bydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn bellach yn gweithio gyda phenseiri i ddatblygu’r cynlluniau manwl ar gyfer ailwampio’r neuadd sydd wedi bod yn darparu llety i fyfyrwyr Cymraeg ers 1973.

Yn y cyfamser, bydd myfyrwyr Cymraeg wedi cael eu symud i neuadd breswyl gyfagos, Penbryn, ac yn ôl y Brifysgol, bydd yr ardaloedd sy’n cael eu clustnodi ar gyfer myfyrwyr Cymraeg yn cael eu ‘brandio’ er mwyn cynnal y cysylltiad gyda Phantycelyn.