Jeremy Corbyn Llun: PA
Mae Jeremy Corbyn yn wynebu her i’w arweinyddiaeth ar ôl iddo wrthod ymdrech gan ei ddirprwy arweinydd, Tom Watson, i’w berswadio i ildio’r awenau.
Mae’n ymddangos bod cyn-lefarydd busnes Llafur, Angela Eagle, yn barod i herio arweinyddiaeth Corbyn, tra bod llefarydd gwaith a phensiynau’r blaid, Owen Smith, hefyd yn ystyried ei herio, yn ôl adroddiadau.
Roedd y ddau ymhlith nifer o aelodau o gabinet yr wrthblaid a ymddiswyddodd ar ddechrau’r wythnos.
Mae Tom Watson wedi rhybuddio bod y blaid “mewn perygl” ar ôl i Jeremy Corbyn wrthod trafod unrhyw fath o gytundeb ar ôl i ASau Llafur gefnogi pleidlais o ddiffyg hyder ynddo ddydd Mawrth.
Mewn araith i fyfyrwyr yn Llundain nos Fercher, dywedodd Corbyn tra ei fod yn cydnabod nad oedd pawb yn cefnogi ei arweinyddiaeth, mae’n mynnu bod ganddo gefnogaeth yr aelodau ar lawr gwlad.
Daeth ymyrraeth Tom Watson ar ôl i gyn-arweinwyr y blaid, Ed Miliband, Gordon Brown a Harriet Harman, ymuno a’r galwadau ar Jeremy Corbyn i roi’r gorau i’w arweinyddiaeth.
Mae Tom Watson wedi rhoi’r bai ganghellor yr wrthblaid, John McDonnell, am wrthod caniatáu i Jeremy Corbyn ymddiswyddo. Ond wfftio hynny wnaeth John McDonnell, gan ddweud ei fod yn hyderus y byddai Corbyn yn goroesi unrhyw her i’w arweinyddiaeth.