Cocên
Mae disgwyl i ddynes o’r Alban, a gafodd ei charcharu ym Mheriw am geisio smyglo cyffuriau, ddychwelyd i Brydain heddiw.

Fe gyrhaeddodd Melissa Reid, 22 oed, faes awyr Lima nos Fawrth yng nghwmni ei thad, Billy, a staff llysgenhadaeth Prydain.

Mae disgwyl iddi hedfan i Amsterdam cyn cyrraedd nôl yn y DU.

Cafodd Reid o East Dunbartonshire ei harestio ynghyd a Michaella McCollum, 23, o Dungannon, Co Tyrone wrth geisio smyglo cocên gwerth £1.5 miliwn o Beriw i Sbaen yn 2013.

Cafodd y ddwy eu carcharu am chwe blynedd ac wyth mis ar ôl cyfaddef y drosedd.

Ond ym mis Mai fe gytunodd barnwr y gallai ddychwelyd i’r DU o dan gynllun arbennig ar gyfer estraddodi pobl sydd wedi cyflawni troseddau’n ymwneud a chyffuriau am y tro cyntaf.

Cafodd McCollum ei rhyddhau o’r carchar ym mis Mawrth o dan y ddeddfwriaeth newydd ond mae’n rhaid iddi aros ar barôl ym Mheriw.