Llun: PA
Ar ddiwrnod olaf yr ymgyrchu cyn y refferendwm ar ddyfodol Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd mae David Cameron wedi rhybuddio y bydd y DU yn wlad fwy “ynysig a mewnblyg” os yw pobl yn pleidleisio dros adael.

Mae’r Prif Weinidog wedi beirniadu ffocws “cul” yr ymgyrch dros adael yr UE ac wedi ymosod yn chwyrn ar boster arweinydd Ukip Nigel Farage, sy’n dangos ymfudwyr yng nghefn gwlad Ewrop, fel ymdrech i hybu anoddefgarwch.

Mewn dadl deledu o flaen cynulleidfa fyw o 6,000 o bobol neithiwr, fe fu’r ddwy ochr yn gwrthdaro unwaith eto.

Yn Arena Wembley, cafodd arweinwyr Brexit a’r ymgyrch dros aros yn Ewrop ddweud eu dweud ar gyfres o bynciau yn ymwneud ag aelodaeth Prydain yn yr UE, gyda mewnfudo, iechyd a’r economi yn hawlio llawer o’r sylw.

O’r ochr aros yn Ewrop, fe lambastiodd Maer newydd Llundain, Sadiq Khan, yr ymgyrch dros adael a Boris Johnson yn benodol, am gynnal ymgyrch o “gasineb” yn erbyn mewnfudwyr.

Ond cododd y dorf i gymeradwyo cyn-Faer Llundain, un o’r enwau adnabyddus sydd am adael yr UE, pan ddywedodd wrth y gynulleidfa mai dydd Iau fyddai “diwrnod annibyniaeth ein gwlad.”

Yn sefyll gyda Boris Johnson yn yr ymgyrch dros adael oedd yr AS Llafur, Gisela Stuart a’r gweinidog ynni, Andrew Leadsom.

A’r ddwy oedd yn dadlau’r achos dros barhau i fod yn yr UE gyda Sadiq Khan, oedd Ruth Davidson, arweinydd y Ceidwadwyr yn yr Alban a Frances O’Grady, ysgrifennydd cyffredinol undeb y TUC.

Boris yn “dweud celwydd”

Yn ystod y ddadl a barodd bron i ddwy awr, fe wnaeth y ddau Geidwadwr, Ruth Davidson a Boris Johnson wrthdaro sawl gwaith, gyda’r arweinydd yn yr Alban yn ei gyhuddo o ddweud celwydd.

Yn ôl Boris Johnson, mae’r ymgyrch i gadw Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd yn euog o “danbrisio’r” wlad.

“Ar ddiwedd yr ymgyrch hwn, dw i’n meddwl y gallwch gytuno bod dewis clir rhwng y sawl ar eu hochr nhw sy’n siarad am ofni’r goblygiadau o adael yr UE, a ni ar ein hochr ni, sy’n cynnig gobaith,” meddai.

Fe fydd dwy ddadl ynglŷn ag effaith canlyniad y refferendwm ar Gymru heno, un ar BBC Cymru a’r llall fel rhan o rifyn arbennig Pawb a’i Farn.

Busnesau dros yr UE

Yn yr oriau olaf cyn i bobol daro’u pleidlais, mae 1,285 o bobol busnes ym mhapur newydd y Times heddiw wedi llofnodi llythyr sy’n cefnogi’r UE.

Mae’r llofnodwyr – 100 o gwmnïau a 910 o fusnesau bach, sy’n cyflogi 1.75 miliwn o bobol rhyngddyn nhw, yn cynnwys Syr Richard Branson a phennaeth Carphone Warehouse, Syr Charles Dunstone.