Janet Finch-Saunders AC
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynlluniau manwl o ran y bwriad i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru, Mark Drakeford, eisoes wedi cyhoeddi y bydd yn cefnu ar y cynllun o dorri nifer y cynghorau o 22 i wyth neu naw.

Ond mewn dadl yn y Senedd heddiw, fe fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo’r Llywodraeth o “betruso”, gan ddweud  bod hynny yn ei dro yn arwain at “effaith negyddol” ar wasanaethau cyhoeddus yr awdurdodau lleol.

‘Ansicrwydd’

 

Dywedodd AC Ceidwadol Aberconwy, Janet Finch-Saunders, ei bod yn croesawu’r cynllun i gefnu ar y cynllun gwreiddiol a dechrau trafod a chynllunio ar lechen lân.

Ond, mae’n dal i godi cwestiynau ynglŷn â phryd fydd y cynlluniau newydd yn cael eu datgelu.

“Mae angen i unrhyw gynlluniau gael eu cyhoeddi mor fuan â phosib gan fod yn hollol dryloyw,” meddai.

“Mae angen iddyn nhw hefyd gael eu cyhoeddi mewn ymgynghoriad â’r holl bleidiau, rhanddeiliaid allweddol ac, yn fwy na dim, â’r cymunedau lleol.”

“Yn y cyfamser, tra bo gymaint o ansicrwydd a phryderon dros ddyfodol darpariaeth y gwasanaeth, mae dyfodol cyfraddau Treth y Cyngor a siroedd balch Cymru yn dal heb eu datrys,” ychwanegodd.

Setliad cyllido

 

Dywedodd Mark Drakeford yr wythnos diwethaf ei fod am gynnal “sgwrs ehangach” am y cynlluniau, a’i fod yn awyddus i’w cyflwyno erbyn yr hydref.

Mae disgwyl i’r Ceidwadwyr Cymreig ddadlau hefyd yn y Senedd fod angen diwygio’r modd y mae’r cynghorau yn cael eu cyllido, gan ddweud fod Setliad ar hyn o bryd “yn ffafrio ardaloedd dinesig o gymharu ag ardaloedd gwledig.”