Jo Cox AS (Llun: Yui Mok PA)
Fe fydd gwr y diweddar Aelod Seneddol Jo Cox a’i dau blentyn yn ymuno a chyfeillion, cydweithwyr ac ymgyrchwyr blaenllaw heddiw wrth i gymunedau ar draws y byd ddod at ei gilydd i ddathlu ei phen-blwydd yn 42 oed.
Fe fydd yr ymgyrchydd Malala Yousafzai ymhlith y rhai fydd yn annerch rali yn Sgwâr Trafalgar yn Llundain am 4yp ddydd Mercher. Mae disgwyl i ŵr yr AS Llafur, Brendan Cox a’u plant – Lejla, 3, a Cuillin, 5 – fod yn bresennol.
Dywed trefnwyr y bydd y digwyddiadau, sy’n cael eu cynnal mewn amryw o leoliadau, yn deyrnged i “gariad, ynni, ac angerdd” Jo Cox tuag at “bob person ym mhob lle.”
Cafodd Jo Cox ei saethu a’i thrywanu ddydd Iau diwethaf yn ei hetholaeth yn Batley a Spen, yn Sir Efrog.
Mae Thomas Mair, 52, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Jo Cox.