Mae o leiaf 24 o bobol wedi marw yn dilyn llifogydd yn Indonesia.

Mae llawer iawn mwy o bobol ar goll yn dilyn y llifogydd a’r tirlithriadau yn Java.

Cafodd dwsinau o dai eu claddu o dan rwbel a miloedd o gartrefi wedi’u taro gan y llifogydd mewn 16 o ranbarthau a threfi.

Ymhlith y rhai fu farw roedd dau o blant 10 oed a dynes oedd yn feichiog.

Mae 26 o bentrefwyr ar goll o Purworejo, lle bu farw 11 o bobol.

Cafodd saith o bobol eu lladd yn rhanbarth Kebumen a chwech yn rhanbarth Banjarnegara.

Mae’r ymdrechion i achub pobol yn parhau.