Angen creu sêr y dyfodol, medd Neville Southall
Mae cyn-golwr Cymru, Neville Southall wedi galw am roi mwy o bwyslais yng Nghymru ar bêl-droed ar lawr gwlad yn sgil llwyddiant y tîm cenedlaethol wrth gyrraedd Ewro 2016.
Yn ôl Southall, a enillodd 92 o gapiau dros Gymru, mae’r gystadleuaeth yn gyfle “unwaith mewn miliwn” i fuddsoddi yn y gamp.
Mae sylwadau’r cyn-golwr ar raglen Sunday Politics Wales yn adleisio pryderon Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch datblygu chwaraewyr y dyfodol yn wyneb torri cyfleusterau.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n gwario £1 miliwn y flwyddyn ar ddatblygiad pêl-droed.
Dywedodd Southall wrth y BBC: “Chawn ni ddim llwyddiant os gwnawn ni anwybyddu pêl-droed ar lawr gwlad.
“Dydyn ni ddim yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol felly rhaid i ni edrych ar hyn fel cyfle unwaith mewn miliwn i newid y ffordd rydyn ni’n gwneud pethau yn y byd pêl-droed ar lawr gwlad.
“Mae angen i bob plentyn chwarae pêl-droed yn yr ysgol, mae angen i bob plentyn gael y freuddwyd o fod y Gareth Bale nesaf.
“Ond wedyn, rhaid rhoi’r cyfleusterau iddyn nhw chwarae ac i dderbyn hyfforddiant da.
“Chawn ni ddim llwyddiant os ydyn ni’n anwybyddu pêl-droed ar lawr gwlad ac mae angen i ni feddwl yn ddifrifol am le mae’r plant yn mynd a lle maen nhw’n chwarae pêl-droed.”