Fe fydd Swydd Gaint yn gobeithio gwneud yn iawn ddydd Sul am ddwy golled undydd yn erbyn Morgannwg dros yr wythnos ddiwethaf, pan fydd y ddwy sir yn cyfarfod unwaith eto yng Nghaerdydd yn ail adran y Bencampwriaeth.

Roedd y Cymry eisoes wedi curo’r Saeson yng nghwpan 50 pelawd Royal London yng Nghaergaint ddydd Sul diwethaf, cyn ailadrodd y gamp yn y T20 Blast yng Nghaerdydd nos Wener.

Ond dydy Morgannwg ddim wedi ennill yr un o’u gemau pedwar diwrnod y tymor hwn, ac maen nhw ar waelod y tabl ar ôl colli tair gêm a chael tair gêm gyfartal.

Pan gyfarfu’r ddwy sir yn y gystadleuaeth hon ddechrau’r tymor, y Saeson oe yn fuddugol o ddeg wiced yng Nghaergaint, ac maen nhw’n drydydd yn y tabl.

Yn y saith gêm diwethaf rhwng Morgannwg a Swydd Gaint, fe fu’r Cymry’n fuddugol dair gwaith, tra bod y Saeson wedi sicrhau pedair buddugoliaeth.

Y tymor diwethaf yng Nghaerdydd, roedd y Saeson  yn fuddugol o 316 o rediadau, ond y Cymry oedd yn fuddugol y tymor blaenorol, a hynny o fatiad ac 11 rhediad wrth i’r bowliwr cyflym Michael Hogan gipio deg wiced mewn gornest am y tro cyntaf i Forgannwg. Ac mae angen dwy wiced ar Hogan i gyrraedd y garreg filltir o 200 wiced ddosbarth cyntaf i’r sir.