Cefnogwyr Rwsia a Lloegr yn gwrthdaro yn Marseille
Mae grwp o 20 o gefnogwyr pêl-droed Rwsia yn cael eu hel adref o Ffrainc, wedi iddyn nhw gael eu cyhuddo o fod yn gyfrifol am hwliganiaeth ym mhencampwriaeth Ewro 2016.
Mae’r criw wedi bod yn cael eu cadw mewn ystafell fechan ym maes awyr Nice, cyn y mae disgwyl iddyn nhw gael eu rhoi ar awyren i Mosgow brynhawn heddiw.
Er eu bod ar fin cael eu hel adref, mae Alexander Shprygin, arweinydd y criw cefnogwyr sydd ymhlith yr ugain, yn dweud nad yw eu fisas wedi’u canslo, ac felly y bydd y criw yn ei ôl ar gyfer gêm Rwsia yn erbyn Cymru ddydd Llun.
Roedd yr 20 dyn yn rhan o grwp mwy o Rwsiaid a gafodd eu harestio gan yr awdurdodau yn Ffrainc ddydd Mawrth diwetha, yn dilyn trais ar y strydoedd. Mae tri ohonyn nhw wedi’u cael yn euog o’r blaen o droseddau’n ymwneud â thrais, ac wedi treulio cyfnodau yn y carchar.