Seland Newydd 36 Cymru 22


Jonathan Davies - cais hwyr i godi calon a balchder (David Davies/PA)
Fe gafodd Cymru eu canlyniad gorau erioed mewn gêm brawf yn Seland Newydd … trwy golli o ddim ond 36-22 a chael tri chais.

Roedd y stori’n un gyfarwydd – Cymru yn dal yn gyfartal yn yr hanner cynta’ ac wedyn Seland Newydd yn codi eu gêm yn syfrdanol a sgorio pedwar cais mewn deng munud.

Y gwahaniaeth y tro yma oedd fod Cymru hefyd wedi taro’n ôl a chael dau gais yn y deng munud ola’ a, phan drodd y Crysau Duon y sgriw eto yn y munud ola’, fe gafodd cais hwyr ei wrthod.

Cyfartal ar yr hanner

Cyfartal 10-10 oedd hi ar yr egwyl ar ôl i’r clo Alun Wyn Jones sgorio cais i Gymru yn union cyn y chwiban.

Hynny’n ychwanegu at gic gosb gynnar gan Dan Biggar ac yn ateb cais gan Israel Dagg – ar ei 50fed cap – a chic gosb.

Roedd Cymru wedi llwyddo i fod yn gystadleuol er fod Seland Newydd fel petaen nhw’n chwarae’n gyfforddus o fewn eu gallu.

Gweddnewid

Fel yn y Prawf Cynta wythnos yn ôl, fe lwyddodd y Crysau Duon i weddnewid y gêm, y tro yma yn y trydydd chwarter.

Fe ddaeth dau gais o fewn dwy funud trwy Ben Smith a Beauden Barrett a, hyd yn oed pan oedd Cymru’n hanner bygwth llinell Seland Newydd, roedd hynny’n cael ei droi’n wrthymosodiad ysgubol.

Dyna’r stori wrth i Naholo sgorio cais syml ar ôl i’r Crysau Duon olwyno sgrym 10 llath a chreu lle ac wedyn, pan gollodd Cymru eu lein eu hunain yn 22 Seland Newydd, fe aethon nhw’r holl ffordd i greu cais i Andy Savea.

Ymdrech ola’

Ar y pryd, a hithau’n 36-10, roedd hi’n edrych yn dywyll iawn ar Gymru ond y tro yng nghwt y stori oedd eu hymdrech galed nhw yn y deng munud ola’, hyd yn oed os oedd Seland Newydd wedi llacio ychydig.

Fe lwyddodd yr asgellwr Liam Williams i sgorio trosgais unigol ardderchog gan guro sawl dyn.

O fewn munudau, ar ôl i Jamie Roberts ryng-gipio ac ennill tir, fe aeth y bêl i’r eilydd Rhys Priestland ac wedyn i Jonathan Davies.

Dau sgôr i godi calon y Cymry ar ôl gwers arall ar sut i droi cyfleoedd yn geisiadau ar yr adeg dyngedfennol.